MyfanwyHUWSHUWS Catrin Myfanwy Manyrafon, Pontrhydfendigaid Wedi brwydr hir a dewr, yng nghwmni ei theulu hunodd Myfanwy yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar 29ain o Fai 2022 yn 75 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon ac annwyl Ian, mam addfwyn Trystan, Angharad, Dwynwen a Gwydion, mamgu gariadus a balch Noa, Magi, Nel, Florence, Miriam, Lewis a Rosie a chwaer hoff Eluned, Islwyn, Glenys, Eleri, Glyndwr a Gareth. Gwasanaeth preifat yn Eglwys y Fynachlog, Ystrad Fflur ar 18fed o Fehefin 2022 am 1 o’r gloch. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Myfanwy tuag at Apêl Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais trwy law Geoffrey Hughes, Y Fron, Heol Dewi, Tregaron SY25 6JW. Ymholiadau pellach i Mr Dorian Harries ar ran G. Harries a’i feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, Sir Gâr, SA39 9BY Ffôn: 01559 384903/384386.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Myfanwy