Rachel Ray EvelynCHARLESCHARLES RACHEL (Ray) EVELYN Ar 13eg o Ebrill hunodd Ray yn dawel yn ei chartref yn Aberglwydeth, New Inn, Pencader yn 87 oed. Gwraig annwyl Glan, Mam cariadus Alun a Huw, Chwaer arbennig i Dilys, Eirlys a'r diweddar May a Nansi, Mam yng nghyfraith hoff Cerys a Mam-gu balch Tomos ac Ioan. Angladd hollol breifat oherwydd y cyfyngiadau diweddar, am 2y.p. Dydd Sadwrn, 18fed o Ebrill 2020 ym mynwent Pencader. Gwasanaeth goffa yng Nghapel New Inn i ddilyn yn y dyfodol wedi'r cyfyngiadau presennol ddod i ben. Hoffai deulu Ray ddiolch i holl weithwyr GIG Cymru a'r gofalwyr am eu gofal arbennig ohoni, ac i'r teulu a ffrindiau am eu cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ymholiadau pellach i Mr Dorian Harries ar ran G Harries ai feibion, Trefnwyr Angladdau, Pencader 01559 384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Rachel