Alan WynROBERTSDymuna Ann, Eirian a Lloyd, Eilir a Marian a'r teulu i gyd ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Alan. Diolch am alwadau ffôn, ymweliadau i'r cartref, llythyrau a chardiau niferus. Diolch i'n cymdogion, ffrindiau, gofalwyr amrhisiadwy Plas Garnedd, meddygon, staff gweinyddol a fferyllfa Penbryn a nyrsus y gymuned a'i gwnaeth yn bosib i Alan gael bod yn ei gartref hyd y diwedd. Diolch i'n gweinidog Parchedig Ddoctor Alun Morton Thomas am ei arweiniad ddydd yr angladd, Mr John Edwards Organydd, Mrs Ann Williams am ddarllen emyn o waith Alan. Diolch i Carol am y dorch hardd, i Sioned ac Ann am drefnu lluniaeth ym Mhen Llain ar ôl yr angladd. Diolch am y rhoddion hael o £1,660 anfonwyd i Tŷ Gobaith. Diolch i'r ymgymerwyr Gwenan a Morfudd Rose & Thistle am eu gofal, tawel ac urddasol cyn ac ar ddydd yr angladd.
Keep me informed of updates