Robert ElwynJONESJONES - ROBERT ELWYN (Robin Cefn) Gorffennaf 11eg 2015 ar ol salwch hir a chas, yn dawel yng nghwmni ei deulu gartref yng Nghefncaer Ferch, Pencaenewydd yn 81 mlwydd oed. Gwr annwyl y diweddar Katie, tad a thad yng nghyfraith gofalus a charedig i Dafydd a Dona, taid cariadus i Tomos a Carla a brawd hoffus i Dilys, Gladys a Dolwen, ar diweddar Alun a Gwynedd. Angladd preifat. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gymdeithas Progressive Supranuclear Palsy trwy law'r ymgymerwr Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffon 01758 750238.
Keep me informed of updates