Evan DavidEVANSDai 330 Yn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mercher Tachwedd 24 ain, 2021 bu farw Evan David Evans - "Dai 330", Brynbach, Rhodfa Glynhebog, Llanbedr Pont Steffan yn 77 mlwydd oed. Priod annwyl Avanna, tad cariadus Llinos a'i phriod Emyr, tadcu tyner a balch i Rhys a'i gariad Manon, Osian ac Elan, brawd hoffus i Dylan a'i wraig Jayne, brawd yng nghyfraith ac wncwl cefnogol, a ffrind i lawer. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Bedyddwyr Noddfa am 12.30 ar ddydd Gwener Rhagfyr 3ydd, 2021 ac yna'n breifat ym mynwent Capel Brynteg. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion os dymunir tuag at: Ward Steffan, Ysbyty Glangwili trwy law Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched, Trefnwyr Angladdau, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan. SA48 7DY (01570 422673)
                        
                                    
        	     Keep me informed of updates