Gwenda D.WILLIAMSRhagfyr 8fed, 2025, yng Nghartref Bron Afallen, Cerrigydrudion (gynt o Fron Segur, Pwllglas), yn dawel yng nghwmni ei theulu, bu farw yn 92 mlwydd oed.
Priod annwyl a gofalus y diweddar Ogwen, mam arbennig Huw, Iona a'r diweddar Alun a mam yng nghyfraith garedig Eirwyn ac Ella, nain falch Dylan a Gwawr, Llinos a Tudur, Ian a Llio, Sioned a Josh a hen nain annwyl.
Cynhelir gwasanaeth o ddiolch am ei bywyd yng Nghapel y Rhiw, Pwllglas, ddydd Mawrth, Ionawr 27ain am 1.30 o'r gloch.
Os dymunir, derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Ymchwil Canser Cymru a Chronfa Mynwent Capel y Rhiw.
Trefniadau Gan
Y Brodyr Dowell, Rhuthun
Keep me informed of updates