EmlynGRIFFITH6ed o Ionawr 2026. Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 1 Parc Yr Efail, Efailnewydd a Fronheulog, Cilan gynt, yn 90 mlwydd oed. Mab y diweddar Richard a Selina, Sarnlys, Sarn Bach. Gŵr annwyl a thriw i Barbara. Tad a thad yng nghyfraith cariadus i Anne, Richard a Michelle, Jean a Deiniol, Wendon ac Idris, a Emyr a Liz. Taid hoffus i Aled, Gareth, Eirian, Mair, Hari, Thomas, Lisa, Michael, Dafydd, Catrin, Emma, Chris ac Anna a hen-daid caredig i Tomos, Gwion, Deio, Caio a Nanw.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Engan, Llanengan dydd Llun, 19eg o Ionawr am 1.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Y Bwlch, Llanengan.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Emlyn tuag at Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwr angladdau (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion). Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates