Rachel ElizabethWATKINS(Beti) Yn dawel ar Awst 13, yn Ysbyty Llandochau, bu farw Beti o'r Barri (gynt o Lanymddyfri a Llanddeusant); gwraig ffyddlon ac annwyl i'r diweddar Hubert, mam gariadus Delyth a David, mamgu arbennig i Sara, Rhian ac Andy, Nain oedd yn meddwil y byd o Dylan, Owain, Ellis ac Elinor, chwaer i Mair, chwaer-yng-nghyfraith i Eunice, ac yn bennaf oll, ffrind arbennig i bawb. Angladd cyhoeddus yn y Tabernacl, Sgwar y Brenin, Y Barri, ddydd Gwener, Awst 28 am 1.15 o'r gloch ac yna yn amlosgfa Caerdydd a Morgannwg, Y Barri am 3 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion os dymunir tuag at Sefydliad Prydeinig Y Galon Cymru, trwy law A.G. Adams, Gladstone Rd, Y Barri.
Keep me informed of updates