Noel BrynWILLIAMSEbrill 10, 2023 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei deulu o 13 Hafod Oleu, Deiniolen yn 85 mlwydd oed. Brawd annwyl Mona a'r diweddar John Elwyn; ewythr caredig Len, Lynda, Glenda a Geraint; hen a hen-hen ewythr tyner a ffrind gorau Mali y ci. Colled drist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Iau, Ebrill 27, 2023 am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Meddygfa Llanberis. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates