NanceVOLKYn dawel ar ddydd Llun, Awst 8, 2022, Nance Volk, gynt Llys Newydd, Llandudoch yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Vince, mam a mam-yng-nghyfraith dyner Geraint a Mair, Gwenda a Gareth, a'r diweddar Lyn, mamgu gariadus Rhys, Manon, Hannah a Dafydd, hen famgu balch Nia a Lowri. Gwasanaeth cyhoeddus ddydd Iau, Awst 18 yn Eglwys Sant Thomas, Llandudoch am 2.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond rhoddion, os dymunir, tuag at Glefyd y Siwgr (Diabetes UK) trwy law Mrs Lowri Evans, Trefnyddion Angladdau Colin Phillips a'i Ferched, 4 Stryd Morgan, Aberteifi. Ffon: 01239 621192.
Keep me informed of updates