Jennie AngharadROBERTSROBERTS - JENNIE ANGHARAD , Chwefror 10, 2018. Yn sydyn ond yn dawel yng Nghartref Gofal Plas Pengwaith, Llanberis, gynt o 2 Ffrwd Madog, Brynrefail, yn 90 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar William Meirion; mam gariadus Eleri a Bethan; mam-yng-nghyfraith hoff Simon; nain annwyl Amy a'i phriod Gareth; hen nain falch Erin Angharad a Gwion Wyn, a chwaer dyner Eileen. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel-y-Rhos, Llanrug ddydd Llun, Chwefror 19, 2018 am 1.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Eglwys Santes Helen, Penisarwaen. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Meddygfa Llanberis a Plas Pengwaith. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. 01286 871833.
Keep me informed of updates