KateOWENYn dawel yng nghwmni ei theulu ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, o 8 Hafan Elan, Llanrug, yn 91 mlwydd oed. Mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Barbara a Mike, nain falch Christopher, Jonathan ac Emma, Paul ac Abbie, hen nain annwyl i India a Jax, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith, modryb a hen fodryb hoff. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris, ddydd Mercher, Chwefror 15, 2017 am 12.30 o'r gloch gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 2.15 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Ward Alaw a Meddygfa Llanrug. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. Ff?n 01286 871833.
Keep me informed of updates