Rachel JuneLEWISDerwydd, Pentrecwrt. Hunodd Ray yn dawel, yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin Ddydd Gwener 21ain Hydref 2022, yn 84 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Dai, Mam annwyl a chariadus Peter, a chwaer hoffus Melvina. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn Arberth, Ddydd Iau 3ydd o Dachwedd 2022 am 10.45 yb. Dim blodau, rhoddion os dymunir tuag at Nyrsys Meddygfa Llynyfran, Llandysul trwy law Wyn Williams, Trefnwr Angladdau, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul, SA44 5JE. Ffon 01559 370412
Keep me informed of updates