NellieJONESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Gwener, Hydref 10, 2014, ac yng nghwmni ei theulu, bu farw Hannah Ellen (Nellie) Jones, Murmur y Nant, Rhos, Llandysul; gwraig annwyl y diweddar Gwyn Jones, mam garedig Barbara, Shirley ac Aled, mam-yng-nghyfraith barchus Barry a Keith, mamgu addfwyn Lowri, Nia a Jonathan, a hen-famgu ofalus Lleucu, Elis a Betsi. Angladd dydd Mercher, Hydref 15, 2014, preifat yn ei chartref, ac yna gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Rhos, Llandysul, am 2 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig. Ymholiadau pellach i Delme James, Trefnwr Angladdau. Ffon. 01994 484540.
Keep me informed of updates