ElunedHUMPHREYSEluned Humphreys nee Jones (Lyn). Gynt o Dalysarn a Gwyddfan, Rhosgadfan. Hunodd Medi 25ain, 2023 yn Wheaton Aston , Swydd Stafford yn 86 mlwydd oed. Annwyl wraig y diweddar Gwyn a mam dyner a gofalus i Bryn, Annette a Gill. Nain a Hen Nain arbennig i Becca a Neil, a Jack, Albie a Matilda. Chwaer yng nghyfraith i Gwenfron, Dafydd, Alwyn ac Ann. Cynhelir yr angladd ar ddydd Mawrth, Hydref 17eg yn amlosgfa Cannock Chase am 11.30yb. Gofynnir yn garedig i bawb gyrraedd erbyn 11.00yb. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Lyn, i'w rannu rhwng cartref gofal Wheaton Aston Court a grŵp gofal lliniarol Comptons. Roedd eu gofal ohoni yn amhrisiadwy yn ystod cyfnod olaf ei bywyd. Rhoddion drwy law yr ymgymerwyr A J Sellman, 70 Church Street, Cannock. 01543 502322. Bydd llwch Lyn a Gwyn yn cael ei gladdu yn y bedd teuluol ym mynwent Macpela, Penygroes nes ymlaen yn y flwyddyn.
Keep me informed of updates