GwenllianGRIFFITHEbrill 11eg, 2023 o Pistyll Cain, Llanrug. Yn dawel ac wedi gofal tyner gan staff Ward Alaw a Moelwyn, Ysbyty Gwynedd yn 64 mlwydd oed. Merch arbennig y diweddar O.T. a Mair Griffith, Llain Wen, Llangristiolus, chwaer annwyl Rhiannon a Nest. Chwaer yng nghyfraith hael a charedig i Mike. Cyfnither ddifyr a hwyliog, nith hoff, cydweithwraig ddoeth a chydwybodol a ffrind ffyddlon iawn i lawer un yng Nghymru a thu hwnt. Colled enfawr i'w theulu, ei chydweithwyr a'i holl ffrindiau. Angladd ddydd Gwener yr 28ain o Ebrill. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethel, Bodorgan am 1 o'r gloch gan ddilyn ym Mynwent Gymunedol Llangristiolus. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at elusennau oedd yn agos at ei chalon. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith, Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon 01286 871833.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwenllian