Gareth WynWILLIAMSHunodd Tachwedd 17eg 2025 yn dawel ac yn heddychlon yng nghwmni ei deulu o 2 Llwyn Bedw, Llanllechid, Bethesda yn 61 mlwydd oed. Mab arbennig y diweddar John a Muriel. Partner cariadus Gwenan. Tad hyfryd a chefnogol Laura, Dylan a Katie. Tad yng nghyfraith annwyl Michael. Taid hoffus Shaun, Dafydd, Ben a Nel. Llys-dad a llys-daid hwyliog Catrin, Morgan, Manon, Gwion a Llio. Bydd colled ddofn i'w deulu, ffrindiau a'i gi ffyddlon Moli. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Mawrth Rhagfyr 16eg am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Glwb Sgotwrs Ogwen, Clwb Pysgota Y Penrhyn Bangor neu Hosbis Dewi Sant Llandudno.
Keep me informed of updates