TegidROBERTSArwel, Llanrug
Bu farw yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, yng nghwmni ei deulu ar 23ain o Orffennaf 2025, yn 78 oed.
Gŵr ffyddlon Nant, tad caredig Huw, Ynyr ac Eurig, tad yng nghyfraith hoff a thaid oedd yn falch iawn o'i wyrion a'i wyresau. Brawd annwyl Elsbeth, Aled a'i frodyr a'i chwiorydd ymadawedig, o Benmorfa, gynt.
Athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle am 27 o flynyddoedd, ac offeiriad mewn plwyfi yn Eryri a Bangor.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Santes Helen, Penisarwaun, am 2.00 y prynhawn ddydd Iau, 21ain o Awst, ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Bangor i'r teulu yn unig.
Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Tegid, tuag at Feddygfa Waunfawr a Cronfa Mwynderau Cartref Gofal Plas Pengwaith, Llanberis.
Ymholiadau drwy law yr ymgymerwyr Dylan Griffith, Tros y Waen, Penisarwaun, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates